Cymdeithas Defaid Penfrith Bryniau Cymru.
Hanes ac addasrwydd y brîd.
Mae’n bur debyg i’r brîd hannu o groesiad rhwng y Ddafad Fynydd Gymreig a’r Defaid Bryniau Ceri a hyd heddiw Canolbarth Cymru yw eu cynefin naturiol. Bellach mae nifer o ddiadelloedd i’w canfod tu hwnt i’r ffiniau gwreiddiol.
Mae’n ddafad fynydd sydd wedi addasu yn gelfydd i’w chynefin ond yr un mor gartrefol ar lawr gwlad gyda’r gallu i ymdopi â gaeafau caled.
Maent yn dawel eu natur gan wneud mamau arbennig o dda. Bydd yn oena’n rhwydd ac yna’n gyson laethog ac amddiffynol o’u hŵyn. Mae’r ŵyn â’r ewyllus i fyw, yn tyfu’n sydyn ac yn dod yn garcas delfrydol ar gyfer y farchnad gyfoes.
Mawrth yw mis wyna i’r mwyafrif helaeth ohonnynt gan wneud hynny allan yn llwyddianus a pharhau i roi canrannau wyna o 150% a throsodd. Mae’n ddafad sydd â galw mawr amdani i gynhyrchu y Miwl Cymreig o groesi â hyrddod Wyneblas Caerlyr gan fod yr un mor llwyddianus pan yn cael ei chroesi â hyrddod llawrgwlad eraill.
Disgwylir i garcas y mwyafrif helaeth o’r ŵyn pur bwyso rhwng 16 – 18kg gyda hyn yn cynyddu i dros 20kg gyda’r ŵyn croes.
Yn gyffredinol gall y mwyafrif o’r defaid bwyso rhwng 60 – 70 kg gyda’r hyrddod bellach rhwng 80 – 100kg.
Welsh Hill Speckled Face Sheep Society.
History and breed adaptability
It’s believed that the breed derived from the crossing of the traditional Welsh Mountain and Kerry Hill sheep and even today it’s the mountains of Mid-Wales that remain as the natural homeland. However there are by now a number of flocks located well outside the traditional boundaries.
They are a mountain breed that has adapted to the harsh winters within their natural surroundings. They are also equally at home on low-lying ground.
They have a quiet temperament and make excellent, careful mothers. They lamb easily, have a plentiful milk supply and defend their young. The lambs have a strong desire to live, grow quickly and develop to form the quality of carcase demanded by the current market.
Lambing is predominantly outside in March with a successful 150% ratio easily achieved. The draft ewe is much in demand to produce the Welsh Mule through crossing with the Blue Faced Leicester and is equally successful when crossed with other terminal sires.
The majority of purebred lamb carcasses weigh between 16 –18kg with crossbred lambs exceeding 20kg.
In general most ewes weigh between 60 – 70kg with the rams tipping the scales at 80 – 100kg.